 |
| Bywgraffiad: |
 |
Mae presenoldeb Al Lewis Band yng Nghymru ac ar donfeddi radio Cymreig yn amlwg iawn ers eu llwyddiant pan gipwyd yr ail wobr yng nghystadleuaeth Can i Gymru 2007 gyda'r trac angerddol, Llosgi.Rhwng 2007 a 2008 rhyddhawyd dwy EP yn y Gymraeg sef 'Byw mewn Breuddwyd' a Dilyn pob Cam'. Fe aethynt hefyd ymlaen i chwarae gwyliau fel Swn, Sesiwn Fawr, Maes B a Wakestock ynghyd â pherfformio ar raglenni fel Bandit, Nodyn a gwneud sesiynau i C2 Radio Cymru.
Daeth eu albwm gyntaf 'Sawl Ffordd Allan' allan yn 2009 gan gynnwys caneuon adnabyddus fel Lle Hoffwn Fod, Trywydd Iawn a hefyd y gân Gwenwyn a pherfformiwyd yn wych gan y chwedlonol Meic Stevens.
Wedi iddo rhyddhau ei albwm Saesneg cyntaf, 'In the Wake' (ALM, 2010), daeth Al i fod yn artist y mis i'r cwmni Caffe Nero, gan sicrhau dechreuad prysur i 2011 wrth deithio ledled Prydain yn canu mewn caffis.
Mae'r ail albwm Cymraeg 'Ar Gof a Chadw' yn dilyn swn a naws cynnes 'In the Wake'. Mae'r holl ganeuon yn trafod y syniad o fywyd yn gwibio heibio gan ein gadael yn hiraethu neu'n myfyrio am gyfnodau penodol. Ond yn fwy na dim, y teimlad hwnnw o berthyn. Naturiol felly oedd i Al gyd-ysgrifennu'r caneuon unwaith eto gydag Arwel Lloyd, a gadael i lais cefndir Sarah Howells lapio'r cyfan â hud a lledrith, fel y gwnaeth mor gywrain yn 'In the Wake'.
Mae gwaith cynnil Sion Llwyd (bas a phiano), Ryan Aston (dryms), Jonathan Thomas (pedal steel) a chynhyrchu dihafal Dave Wrench yn amlwg iawn yma hefyd. Ac i'r rhai hynny a fwynhaodd ymddangosiad Meic Stevens ar 'Sawl Ffordd Allan', Elin Fflur yw'r gwestai y tro hwn, gyda'r gân ingol 'Hafan'.
Ym mis Ebrill 2011 yng ngwobrau RAP Radio Cymru fe enillodd Al y wobr am "Artist Gwrywaidd y Flwyddyn".
|
 |
|
|
 |
|