|
|
Trywydd Iawn
O hawdd yw dechrau'r dydd yn llawn gobeithion Haws yw agor drws yr holl amheuon A phob un bwriad sydd yn dechrau'n gyfiawn Ond buan daw'r arferion drwg i'w dwyn
O lle dwi'n mynd o'i le? Mae'n amser ffeindio be Sy'n fy arwain ar gyfeiliorn
Pe cawn, dewisiwn y trywydd iawn A byw pob dydd yn llawn Pe cawn, fe ddysgwn i y ddawn I ddilyn y trywydd iawn, pe cawn
A mae'r holl arwyddion estron yn fy nrysu Fy nhywys i ar hyd yr un hen lôn O Duw a wyr os fyddai byth yn dysgu Sut i gadw draw o'r llwybr ffôl
Os pwrpas gofyn pam? Mae'n rhaid 'mi neud fy rhan Cyn i amser ei ddinistrio
Pe cawn, dewisiwn y trywydd iawn A byw pob dydd yn llawn Pe cawn, fe ddysgwn i y ddawn I ddilyn y trywydd iawn, pe cawn
|
 |
|
26/05/12 Llundain
|
08/06/12 Abertawe
|
09/06/12 Aberdaugleddau
|
16/06/12 Caerdydd
|
|
|
Dangos pob Gig
|
|